Yn ogystal â’m balchder amlwg i wrth wylio athletwyr Cymru a’n timau cenedlaethol ni’n cipio medalau a thlysau, gweld mwy o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn dysgu am waith ysbrydoledig ein hyfforddwyr a’n gwirfoddolwyr ni yw un o fy hoff agweddau i ar fy rôl i yn Chwaraeon Cymru.
Yng Ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cafwyd cyfle gwych i gyfarfod rhai unigolion eithriadol nodedig. Dyma’r bobl y mae eu gwaith nhw’n golygu ein bod ni’n gallu cynnig i blant eu blas cyntaf ar chwaraeon, bob cam drwodd hyd at roi sglein ar berfformiadau’r athletwyr hynny a fydd yn ennill medalau ym mhencampwriaethau’r byd.
O bob cefndir mewn bywyd ac o bob cornel yng Nghymru, dyma’r bobl i’w dilyn a’u hefelychu.
Y llynedd, addawodd Chwaraeon Cymru, ochr yn ochr â’n partneriaid ni, i ddyblu nifer yr hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr yng Nghymru, o tua 110,000 i tua 250,000 erbyn 2016 – tua 10% o’r boblogaeth. Mae’n darged hynod uchel ond yn un y gallwn ni ei gyrraedd yn fy marn i fel rhan o’n Gweledigaeth gyfan ni ar gyfer Chwaraeon. Mae ein gwaith ymchwil ni’n dangos bod 9% o oedolion yn dymuno gwirfoddoli’n amlach, felly mae’r ewyllys yn bodoli.
Fodd bynnag, rydw i’n teimlo bod y cynnydd wedi bod yn araf hyd yma. Mae’n rhaid i’r sector chwaraeon – ac rydw i’n cynnwys Chwaraeon Cymru yn y sector – godi ei gêm yn sylweddol.
Mae’n rhaid i’r dystiolaeth am y cynnydd sydd wedi’i wneud drwy waith yn cynyddu’r fyddin o wirfoddolwyr ddod yn amlycach yn awr. Nid ydym yn gweld datblygu hyfforddwyr a’r gweithlu chwaraeon yn cael y flaenoriaeth maent yn ei haeddu yn y sector ac mae hynny’n golygu y byddwn ni’n cael ein dal yn ôl gyda’n Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon.
Fel un enghraifft, mae nifer yr hyfforddwyr gweithredol yn ein cyrff rheoli cenedlaethol ni wedi cynyddu o 14,604 i 16,397 yn ystod y flwydddyn rhwng 2010 a 2011 – cynnydd o 12%. Os ydym ni am gynnal y lefel honno o gynnydd dros gyfnod o bum mlynedd, byddai hynny’n golygu ein bod ni’ sicrhau cynnydd o 60-65%, yn hytrach na’r cynnydd o 100% rydym ni wedi bod yn chwilio amdano. Wrth gwrs, nid dim ond ffigurau sy’n bwysig, ond hefyd y math o hyfforddwyr a’r lefel o hyfforddwyr rydym ni eu hangen, a ble maent yn cael eu defnyddio. Mae’n rhaid wrth ansawdd yn ogystal â niferoedd, ond hoffwn gadarnhau fy nyhead i i’n gweld ni’n sicrhau cynnydd yn gynt.
Gyda Llundain 2012 a Glasgow 2014 ar y gorwel, a hefyd Pencampwriaethau Athletau’r Byd sydd i’w cynnal yn Llundain yn 2017 yn dilyn cyhoeddiad diweddar, bydd plant a phobl ifanc yn arbennig yn dymuno efelychu eu harwyr yn y byd chwaraeon. Wedi perfformiad ardderchog Dai Greene ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yr haf hwn, pan gipiodd fedal aur, derbyniodd ei glwb, sef clwb Harriers Abertawe, lawer o geisiadau gan ieuenctid a oedd yn dymuno dilyn yn ôl ei droed ar y trac, ac ymuno â’r clwb.
Fy her i i’r chwaraewyr allweddol yn y byd chwaraeon yng Nghymru yw, ydym ni’n barod i fanteisio ar y diddordeb hwn?
Rydym ni i gyd yn gwybod ein bod ni angen byddin o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy’n fodlon gwneud yn siŵr bod y profiadau cyntaf a gaiff plant mewn chwaraeon yn rhai cadarnhaol a hwyliog. Mae’n rhaid i ni ddechrau recriwtio nawr.
Mae llwybr taith gyfnewid y Fflam Olympaidd wedi cael ei gyhoeddi yn ddiweddar ac roeddwn i’n hynod falch o weld Cymru’n cael lle amlwg ar y llwybr, gan gynnwys taith i gopa’r Wyddfa.
Rydw i wrth fy modd yn cael clywed am y gwahanol ddigwyddiadau cymunedol a fydd yn cael eu cynnal wrth i’r fflam deithio ar hyd a lled y wlad. Mae’n rhaid i ni i gyd gofio bod y cyfle i ddefnyddio grym yr achlysur hwn i annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon yn gyfle y mae’n rhaid i bob un ohonom ni fanteisio arno.
Ceir sawl ffordd i bobl gymryd rhan ond, mewn nifer o achosion, mae’n rhaid i ni weithredu’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach er mwyn osgoi cael ein gadael ar ôl. Er enghraifft, mae gan ysgolion hyd at Ragfyr 16eg i ymuno â Rhwydwaith Get Set – rhaglen addysgol swyddogol Llundain 2012. Drwy ymuno, gall ysgolion Cymru warantu cyfran o docynnau Olympaidd a Pharalympaidd i’w disgyblion.
Er hynny, mae’n fy mhryderu i mai dim ond ychydig dros 10% o ysgolion Cymru sydd wedi cofrestru’n llawn gyda’r cynllun hwn (ffigur o ddechrau mis Tachwedd). Mae hyn yn golygu y bydd llawer o’n plant ysgol ni’n colli cyfle gwych, gyda thocynnau’n cael eu rhannu ar hyd a lled y DU. Bydd disgybl o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn gwylio digwyddiad yn fyw pan allai’r disgybl hwnnw fod wedi dod o ysgol yng Nghymru.
Ni allwn ni adael i’r cyfle hwn fynd heibio heb grybwyll perfformiad ffantastig ein tîm rygbi ni yng Nghwpan Rygbi’r Undeb y Byd. Cododd Warren Gatland a’i chwaraewyr a’i staff galonnau’r genedl gyfan, gan brofi bod gwaith caled ac ymroddiad yn talu ar ei ganfed.
Dyma enghraifft eto o Gymru’n rhagori ar wledydd llawer mwy i ddangos ein bod ni’n genedl chwaraeon sy’n gallu cystadlu ar y lefel uchaf un.
Pan rydych chi’n gweld 60,000 o bobl yn Stadiwm y Mileniwm am 8.30am ar fore Sadwrn i wylio rygbi ar sgrin fawr, ni all unrhyw un ddadlau nad yw chwaraeon yn gyfrwng pwerus.
Roeddwn i’n ddigon ffodus i weld rhai o Bencampwriaethau Boccia PF a gynhaliwyd yn y Ganolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd ychydig wythnosau yn ôl. Daeth 36 o chwaraewyr gorau’r DU at ei gilydd yng Nghaerdydd i herio ei gilydd ar gyfer y teitl pwysig – Pencampwr PF.
Yn y grŵp BC2, enillodd Andrew Williams o’r Wyddgrug yng Ngogledd Cymru, yr aur gyda buddugoliaeth o 4-3 yn y rownd derfynol. Yn y dosbarth BC3, cipiodd Jacob Thomas o Sir Benfro fuddugoliaeth arall i Gymru ac enillodd Rhodri Tudor o Abertawe fedal efydd yn y gystadleuaeth BC1. Cyflawniadau ffantastig a oedd yn glod iddyn nhw eu hunain ac i bawb sydd wedi eu helpu i gyrraedd y lefel hon. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn cyflawni mwy.
Yn fwy diweddar, sicrhaodd Andrew Selby a Fred Evans le yn y tîm bocsio ar gyfer Llundain 2012 – ac mae cael dau focsiwr mewn tîm Olympaidd yn orchest gyntaf arall i Gymru.
Wrth i’r cloc sy’n cyfrif i lawr at Glasgow 2014 symud o dan 1000 o ddyddiau tan y Gemau yn ddiweddar, cefais fy atgoffa o’r targedau a’r dyheadau rydym ni wedi’u pennu ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.
Ni fyddaf yn gadael i ni wyro oddi wrth ein Gweledigaeth i gael pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am oes a chreu cenedl o bencampwyr. Mae’n rhaid i ni ddal ati i geisio codi ein gêm, rhoi cynnig ar ddulliau newydd o weithio a chanolbwyntio ar yr hyn sydd raid i ni ei wneud er mwyn bod yn llwyddiannus.
Yr Athro Laura McAllister
Cadeirydd, Chwaraeon Cymru